(Alun Bontddu)OWEN - ALUN GARTH22ain o Ebrill 2022 Yn annisgwyl o sydyn yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth yn 70 mlwydd oed. Gŵr ffeind ac annwyl Mair, tad gofalgar a chefnogol Osian ac Elis, brawd a brawd yng nghyfraith ffyddlon i Eryl ac Angharad ac Emyr ac Anita ac ewythr hwyliog. Cyfaill clên i lawer. Angladd Preifat fore Mawrth 10fed o Fai. Bydd Gwasanaeth Cyhoeddus i ddathlu ei fywyd ac i ddiolch amdano am 2 o'r gloch yng Nghapel Ebeneser Dinas Mawddwy a chyfle am sgwrs a lluniaeth wedyn yn y Llew Coch. Dim blodau, ond, os dymunir, derbynir rhoddion er cof tuag at ymchwil cancr trwy law Mr. Emyr Owen, Dryslwyn, Bethel, Caernarfon, Gwynedd LL55 1AX.
Keep me informed of updates